Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Hydref 2017
Amser:
08.30 -
08.40
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2017 -
·
Dadl Fer - Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
(gohiriwyd tan 6 Rhagfyr) David J Rowlands (Dwyrain De
Cymru) – (30 munud)
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2017 –
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Nododd y Rheolwyr Busnes y gofyniad statudol newydd a fydd yn Adran 110A o Ddeddf Cymru o'r Prif Ddiwrnod Penodedig ar 1 Ebrill 2018, a'r angen am newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i adlewyrchu hyn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor â'r cynigion ar gyfer newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i fodloni'r gofyniad newydd hwn, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater ym mis Mawrth 2018.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ddychwelyd ato yn eu cyfarfod ar 14 Tachwedd.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn am 15.30 ddydd Mercher 15 Tachwedd 2017 i deithio i'r Wyddgrug er mwyn cynnal cyfarfodydd yno y diwrnod canlynol.